Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

1.        Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu fy mhrif flaenoriaethau ar gyfer Tymor y Cynulliad hwn. Maent yn cynnwys gwella gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi pobl, creu cymunedau mwy diogel a mynd i’r afael â thlodi. Rwy’n falch fod nifer o’r blaenoriaethau a nodwyd gennym eisoes wedi’u cyflawni’n llwyddiannus. Byddwn yn parhau i weithio’n galed i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ar holl ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu.

2.        Gan ddilyn trefn y Rhaglen Lywodraethu, mae’r papur hwn yn crynhoi’r cynnydd a wnaed yn rhai o brif feysydd y portffolio Llywodraeth Leol a Chymunedau, ar wahân i bolisi trafnidiaeth.   

 

 

GWASANAETHAU CYHOEDDUS YNG NGHYMRU

CRYFHAU DEMOCRATIAETH LEOL

Etholiadau Llywodraeth Leol

Bydd etholiadau lleol i gynghorau sir a chymuned yn cael eu cynnal ar ddydd Iau 3 Mai ym mhobman ar wahân i Ynys Môn, a fydd yn eu cynnal flwyddyn yn ddiweddarach. Mae ymgynghoriad wedi cychwyn ar ddyddiad yr etholiadau dilynol, sydd i fod i gael eu cynnal ar yr un diwrnod ag etholiadau’r Cynulliad yn 2016, gyda golwg ar eu gohirio tan 2017.

 

Y Bil arfaethedig ynghylch Democratiaeth ac Etholiadau Llywodraeth Leol

Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys ymrwymiad i gyflwyno Bil Democratiaeth ac Etholiadau. Efallai y bydd teitl y Bil yn newid rhyw ychydig i adlewyrchu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Mae’r gwaith wedi cychwyn o ddatblygu polisi ar gyfer y Bil hwn a bwriedir cyhoeddi Papur Gwyn yn y Gwanwyn. Bwriedir cyflwyno’r Bil erbyn diwedd 2012.

 

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal tan 30 Mawrth ar ganllawiau o dan y Mesur. Mae’r canllawiau’n ymdrin ag amseru cyfarfodydd cyngor, hyfforddi a datblygu cynghorwyr, y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, cynnwys y cyhoedd mewn gweithgarwch craffu, galwadau gan gynghorydd i weithredu, cadeiryddion pwyllgorau craffu, cyfethol i bwyllgorau craffu a rhedeg pwyllgorau archwilio.

 

 

CEFNOGI GWELLIANT PARHAUS I’N GWASANAETHAU CYHOEDDUS

Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)

Roedd yn bleser gennyf gyflwyno’r Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) i’r Cynulliad Cenedlaethol ar 29 Tachwedd 2011. Dyma’r Bil cyntaf i gael ei gyflwyno ers i’r Cynulliad Cenedlaethol ennill cymhwysedd deddfwriaethol ehangach yn dilyn refferendwm y llynedd.

 

Mae’r Bil yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau cymhlethdod a symleiddio prosesau lle bynnag y bo’n bosibl. Bydd y Bil yn symleiddio’r broses ar gyfer gwneud, diwygio a dirymu’r rhan fwyaf o is-ddeddfau yng Nghymru drwy ddileu’r angen am gadarnhad gan Weinidogion Cymru. Mae hefyd yn cyflwyno dull mwy effeithiol ac effeithlon o orfodi, drwy roi’r dewis i ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig. Manteisiwyd ar y cyfle hefyd i gydgrynhoi darpariaethau cyfredol ar is-ddeddfau o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac i’w haddasu lle’r oedd yn briodol. Dyma’r cam cyntaf tuag at ddatblygu Llyfr Statud ar wahân i Gymru.

 

Mae’r Pwyllgor, wrth gwrs, newydd graffu ar y Bil yn ystod Cyfnod 1, ac edrychaf ymlaen at weld ei gasgliadau pan gyhoeddir ei adroddiad.

 

Cynlluniau Integredig Sengl

Datblygiad pwysig arall yn ymgais Llywodraeth Cymru i leihau beichiau a chymhlethdod yw’r ymrwymiad i Gynlluniau Integredig Sengl. Mae ymgynghoriad wedi cychwyn o dan y teitl Cydamcanu – Cydymdrechu ar ganllawiau ar gyfer cynlluniau a phartneriaethau integredig. Mae’r ddogfen yn nodi y dylai’r bwrdd gwasanaethau lleol (BGLl) fod yn dîm arwain cydweithredol strategol ar gyfer ardal, sy’n datblygu cynllun integredig sengl sy’n canolbwyntio ar gyflawni, ac yn sicrhau bod strwythurau partneriaeth yn addas i’r diben. Nod y cynnig hwn yw cwtogi 50% ar nifer y partneriaethau.

Ymyrraeth ar Ynys Môn

Penodais bum Comisiynydd i redeg Cyngor Sir Ynys Môn ym mis Mawrth y llynedd, yn dilyn adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol a amlygodd ddiffygion difrifol yn y trefniadau llywodraethu. Ers hynny, mae’r Cyngor wedi gwneud cynnydd da o dan stiwardiaeth y Comisiynwyr. Mae ymddygiad ac ymgysylltiad yr aelodau wedi gwella’n fawr, fel yr amlygodd y trafodaethau cynhyrchiol a chydsyniol a gafwyd ynghylch y gyllideb a’r dreth gyngor heriol iawn sydd wedi’u pennu ar gyfer 2012-13. Mae nifer o systemau llywodraethu a rheoli allweddol hefyd wedi’u hailwampio’n llwyr. Mae mwy i’w wneud; yn benodol, mae angen recriwtio a phenodi uwch dîm rheoli o’r radd flaenaf. Ond mae’r Comisiynwyr yn credu bod potensial amlwg bellach i leihau’r ymyrraeth yn y tymor canolig, er mwyn ei therfynu’n llwyr maes o law. Fe wnaeth yr Archwilydd Cyffredinol gytuno â’r asesiad hwn mewn adroddiad diweddar.

 

SICRHAU BOD EIN CYLLID YN CEFNOGI DULLIAU CRYFACH A MWY EFFEITHIOL O DDARPARU GWASANAETHAU

Setliad Llywodraeth Leol

O ganlyniad i’r setliad llywodraeth leol ar gyfer awdurdodau lleol dros gyfnod yr adolygiad o wariant, bydd cynnydd o 0.7% yn y cyllid o’i gymharu â gostyngiad yn Lloegr o 0.6%. Mae’r setliad yn cynnwys diogelwch o 1 y cant ar gyfer gofal cymdeithasol hyd at 2013-14, a hyd at 2014-15 ar gyfer addysg.

 

Mae awdurdodau lleol yn rhagweld y bydd y cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru ar ei isaf ers cyflwyno’r dreth.

 

ANNOG CYDWEITHIO EFFEITHIOL RHWNG GWASANAETHAU CYHOEDDUS

Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae dwy her yn wynebu Gwasanaethau Cyhoeddus – cyfyngiadau ariannol a’r ffaith fod anghenion dinasyddion yn cynyddu ac yn cymhlethu. Yn erbyn y cefndir hwn, mae diwygio’n hanfodol. Yn y gorffennol, mae newid wedi golygu ‘marchnadeiddio’ neu ad-drefnu. Caiff y ddau ddull gweithredu gryn effaith ar ddinasyddion a chostau. Mae cydweithio yn cynnig y potensial i sicrhau’r manteision sy’n gysylltiedig ag ad-drefnu, heb y costau na’r risgiau i wasanaethau.

 

Yng Nghymru rydym wedi sicrhau arweiniad ar draws y gwasanaethau cyhoeddus drwy ddod â phrif weithredwyr ynghyd o wasanaethau megis awdurdodau lleol, yr Heddlu ac Iechyd yng Ngrŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus. Sicrheir arweiniad gwleidyddol drwy Gyngor Partneriaeth Cymru. Bydd yr arweiniad gweithredol a gwleidyddol hwn ledled Cymru yn rhoi cyfeiriad clir ac awdurdod i’r diwygio sydd ei angen.

 

Ers adolygiad Simpson, a gynhaliwyd yn 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu Compact ar gyfer Newid gyda Llywodraeth Leol, ac mae’r 22 Awdurdod wedi cytuno i gyflawni’r camau gweithredu a amlinellir yn y Compact. Mae’n dod â chydlyniaeth i’r prif adolygiadau gwasanaeth a pholisïau o dan wasanaethau cymdeithasol ac addysg, ac yn nodi meysydd eraill lle y bydd Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i’r cyfleoedd i weithio’n lleol, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol.

 

I helpu i leihau cymhlethdod mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ôl troed syml ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus i ddangos y rhanbarthau cydweithio – mae 6 rhanbarth ac mae eu ffiniau’n cyfateb i rai’r ardaloedd iechyd. Mae cydweithio rhwng awdurdodau lleol yn bwysig am ei fod yn arwain at ddarparu gwasanaethau mewn ffyrdd sy’n lleihau costau ac yn sicrhau cydnerthedd. Ond cofier ei bod yn bwysig cydweithio ar draws gwasanaethau hefyd, i ddiwallu anghenion cymhleth unigolion mewn ffyrdd sy’n mynd i’r afael â’r achosion yn ogystal â’r symptomau.

 

CEFNOGI POBL

Y LLUOEDD ARFOG

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad trosfwaol i gefnogi cymuned y lluoedd arfog i sicrhau bod personél presennol, cyn-bersonél, a theuluoedd y Lluoedd Arfog yn gallu cael gafael ar wasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion penodol ac yn cydnabod eu gwasanaeth dros eu gwlad.

 

Roedd y datblygiadau trosfwaol penodol yn 2011-12 yn cynnwys:

 

  • Cyhoeddi Pecyn Cymorth Llywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

 

  • Cadarnhau cyllid i gefnogi digwyddiadau Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Ngogledd a De Cymru.

 

  • Parhau i weithio ar faterion a godwyd gan y Grŵp Arbenigol ar anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru, gan gynnwys cynhadledd i annog Awdurdodau Lleol i ddefnyddio Cyfamod Cymunedol y Weinyddiaeth Amddiffyn.

 

 

CYMUNEDAU MWY DIOGEL I BAWB

GOSTWNG AC ATAL TROSEDDAU IEUENCTID

Ymrwymiad i ymgynghori ar Fil Atal Troseddau Ieuenctid

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymchwilio i ffyrdd amgen o gryfhau ei phwerau presennol yn y meysydd datganoledig er mwyn dylanwadu ar y ffordd y darperir gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru.

 

Mae swyddogion wrthi’n ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol er mwyn ymgynghori ar gynigion i geisio:

·         Lleihau’r nifer o blant a phobl ifanc sy’n mentro i’r system cyfiawnder ieuenctid drwy wella’r cymorth gan wasanaethau datganoledig i’w gwyro oddi wrth y system cyn mynd i’r llys.

·         Gwella’r cymorth gan wasanaethau datganoledig ar gyfer plant a phobl ifanc o fewn y system cyfiawnder ieuenctid.

  • Cryfhau atebolrwydd a chydweithredu partneriaethau lleol a rhanbarthol o ran eu cymorth i bobl ifanc tra eu bod yn y system cyfiawnder ieuenctid.

  • Darparu gwell gwasanaethau cymorth, ôl-ofal ac ailintegreiddio ar gyfer plant a phobl ifanc yn dilyn dedfryd gymunedol neu garcharol.

Ymrwymiad i barhau i gynnig Cyllid Cymunedau Diogelach i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol Cymru

Rhoes y Gronfa Cymunedau Diogelach £4.5m i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol yn 2011/12 i’w galluogi i gynnal prosiectau a mentrau Cyfiawnder Ieuenctid lleol er mwyn atal a lleihau troseddu ac aildroseddu ymhlith pobl ifanc. Mae meini prawf y grant yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd i sicrhau bod prosiectau’n cyflawni’r canlyniadau a amlinellwyd yn y cynigion uchod a bod y gronfa’n cael ei dosbarthu yn unol â ffiniau’r ôl troed rhanbarthol yn 2013-14.

 

GOSTWNG NIFER Y TROSEDDAU AC OFN TROSEDDU

Cyflogi 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu

Mae ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol yn un o ymrwymiadau ‘Pump am Ddyfodol Tecach’ Llywodraeth Cymru yn ein Rhaglen Lywodraethu. Mae hyn yn cael ei weithredu mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru ac Awdurdodau Heddlu Cymru. Mae bwrdd prosiect yn goruchwylio’r gwaith, dan gadeiryddiaeth Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Diogelwch Cymunedol. Mae’r bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru, Awdurdodau Heddlu Cymru, Cymunedau yn Gyntaf, Llywodraeth Leol a Thrafnidiaeth, ynghyd â swyddogion Ymchwil Gymdeithasol.

Mae’r bwrdd prosiect wedi gwneud cryn gynnydd, gan gynnwys cytuno ar y brandio a’r Telerau a’r Amodau. Mae pwysigrwydd ychwanegedd wedi’i bwysleisio drwy’r bwrdd prosiect ac mae heddluoedd wedi darparu amcanestyniadau cyfredol o’u staff tan 2013/14. Rhydd hyn ddarlun llawnach o’r nifer graidd o staff sydd gan yr heddluoedd unigol a gellir defnyddio hyn yn sylfaen i fesur ychwanegedd y Swyddogion Cymorth Cymunedol a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n anodd rhagweld y tu hwnt i 2013/14 ar hyn o bryd am fod Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddau yn mynd i gael eu hethol yn Nhachwedd 2012.

 

Mae cynnig i werthuso effaith y Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol wedi’i gytuno gan y Bwrdd Prosiect ac mae manyleb fanwl yn cael ei pharatoi.

Mae’r wedd derfynol wedi’i rhoi ar y trefniadau ariannu ac mae Swyddogion Cymorth Cymunedol a ariennir gan Lywodraeth Cymru eisoes yn cael eu hyfforddi yn 3 o’r 4 heddlu yng Nghymru. Bydd y pedwerydd yn dechrau hyfforddi ym mis Mawrth a Heddlu Trafnidiaeth Prydain ym mis Mai. Mae’r rhai cyntaf i gael eu recriwtio eisoes wedi dechrau gweithio yng Ngwent ac yn Nyfed Powys.

 

Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddau

 

Daeth Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol i rym yn Nhachwedd 2011. Bydd yr etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddau yn cael eu cynnal yn Nhachwedd 2012. Mae’r Swyddfa Gartref wedi dweud eu bod am weld Panelau Heddlu a Throseddau’n cael eu sefydlu erbyn Gorffennaf 2012, er eu bod yn deall y gallai fod angen ailystyried hynny yng ngoleuni’r etholiadau Llywodraeth Leol ar 3 Mai 2012. Rwyf wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol yng Nghymru i’w hannog i wneud enwebiadau priodol i Banelau Heddlu a Throseddau.

 

LLEIHAU’R NIWED SY’N GYSYLLTIEDIG Â CHAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU

Rhaglen Adolygu Camddefnyddio Sylweddau

Mae Rhaglen Adolygu Camddefnyddio Sylweddau wedi’i sefydlu i adolygu’r hyn a gyflawnwyd ym maes camddefnyddio sylweddau dros y tair blynedd diwethaf o dan y Strategaeth bresennol ac i benderfynu a gafodd y cyflawniadau eu sicrhau yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon. Mae’r adolygiad yn craffu ar y strwythurau llywodraethu cenedlaethol a’r mecanweithiau darparu lleol yn ogystal ag ar y modelau ariannu cysylltiedig. Mae ymchwil wedi’i chomisiynu hefyd i ddarparu sylfaen o dystiolaeth a data. Mae pum rhan i’r adolygiad:

 

  • Adolygiad o’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol
  • Adolygiad o’r Fformiwla Ariannu
  • Adolygiad o’r Byrddau Cynllunio Ardal
  • Gwerthusiad o’r Strategaeth (gan gynnwys Dadansoddiad Cost a Budd)
  • Ffrwd Waith Datblygu Sefydliadol

 

Bydd canfyddiadau’r Rhaglen Adolygu Camddefnyddio Sylweddau yn nodi’r cyfleoedd i resymoli a symleiddio partneriaethau er mwyn sicrhau bod y mecanweithiau darparu yn addas i’w diben ac yn gallu cydweithio a chydlynu’n rhanbarthol. Bydd hefyd yn nodi argymhellion ar gyfer model ariannu mwy tryloyw a syml a fydd yn annog penderfyniadau sy’n strategol yn rhanbarthol ac yn gwneud cyllidebau cyfun yn bosibl. 

Cynllun Gweithredu newydd ar Gamddefnyddio Sylweddau ar gyfer y tair blynedd 2012-2015

Mae digwyddiadau ymgynghori yn cael eu cynnal ar hyn o bryd o amgylch Cymru i ofyn i randdeiliaid camddefnyddio sylweddau pa faterion allweddol yn ymwneud â chamddefyddio sylweddau y dylid eu blaenoriaethu dros y tair blynedd nesaf yn genedlaethol ac yn lleol.

Cyllid Camddefnyddio Sylweddau 2012-13

Mae’r Cyllid Refeniw Camddefnyddio Sylweddau i Fyrddau Cynllunio Ardal/Partneriaethau Diogelwch Cymunedol ar gyfer 2012-13 ar yr un lefel ag o’r blaen, sef £22.63m. Mae’r cyllid cyfalaf camddefnyddio sylweddau wedi gostwng o £6.1m i £5.69m.

 

GOSTWNG Y CYFRADDAU CAM-DRIN DOMESTIG A THRAIS YN ERBYN MENYWOD    

Parhau i herio agweddau hen ffasiwn at fenywod drwy ddatblygu “Yr Hawl i Fod yn Ddiogel”, ein Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, a Strategaeth “Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig: Dull Partneriaeth”.

 

Mae’r cynllun gweithredu ‘Hawl i fod yn Ddiogel’ yn heriol ac yn cynnwys 89 o gamau gweithredu. Erbyn Mawrth 2011, roedd 41 o’r camau wedi’u cyflawni a rhoddwyd y gorau i geisio cyflawni un cam pan ddiddymodd Llywodraeth y DU Weithgor Trawslywodraethol Rhyngweinidogol y DU. Mae gwaith wedi cychwyn ar 40 cam arall ac mae rhai yn symud yn eu blaen yn gynt nag eraill. Bydd pum cam a oedd i fod i gael eu cyflawni yn ystod 2010-11 yn cael eu datblygu yn y flwyddyn i ddod. 

Y Bil arfaethedig ynghylch Cam-drin Domestig a Thrais yn erbyn Menywod

Bydd y Bil yn ategu bwriad y Llywodraeth i sicrhau bod cyrff cyhoeddus perthnasol yn mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig mewn ffordd gydgysylltiedig a chydlynol gan roi sylw penodol i agweddau ataliol, amddiffynnol a chefnogol. 

 

Prosiect 10,000 o Fywydau Diogelach

Sefydlwyd y prosiect 10,000 o Fywydau Diogelach (cam-drin domestig) er mwyn gweithredu’r hyn a ddysgwyd o’r 3 phrosiect a arweiniwyd gan Frigâd Kafka yn Ne Cymru – ac o’r prosiect 1,000 o fywydau yn y GIG. Mae’r prosiect yn ceisio gwella’r gwasanaeth amlasiantaethol a ddarperir ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig mewn achosion risg arferol a chanolig. Rhwng canol Tachwedd 2011 a chanol Ionawr 2012, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfres o weithdai rhanbarthol ledled Cymru gan gynnwys ystod o bartneriaid o lywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd, yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol, a’r trydydd sector. Mae’r themâu sy’n dod i’r amlwg – pwysigrwydd arweinyddiaeth dda; rhannu gwybodaeth yn effeithiol; gwell hyfforddiant amlasiantaethol; atal (gyda phwyslais ar addysg); a darparu gwasanaeth o safon gyson uchel; yn cael sylw manwl gan swyddogion.
  

Cydgysylltydd Atal Masnachu mewn Pobl

Yn Ebrill 2011, penodwyd cydgysylltydd cyntaf Cymru ar Atal Masnachu mewn Pobl, i gydgysylltu’r cymorth gorau posibl ar gyfer dioddefwyr y fasnach fewnol ac allanol mewn pobl ac i wneud Cymru’n lle anghyfeillgar i fasnachwyr mewn pobl. Mae’r penodiad hefyd yn sicrhau parhad yr arferion da ers lansio’r strategaeth “Hawl i fod yn Ddiogel”, ac yn helpu i sicrhau ymateb cydgysylltiedig ac un pwynt cyswllt ar gyfer yr holl asiantaethau perthnasol ledled Cymru. Gan mai dyma’r penodiad cyntaf o’i fath yn y DU, rydym wedi cael cyfle i arwain y ffordd o ran delio â masnachu mewn pobl. Mae’r cydgysylltydd wedi cyflawni nifer o bethau yn ei flwyddyn gyntaf, gan gynnwys cydweithio’n agos ag Asiantaethau Masnachu mewn Pobl y DU ac ymweld yn bersonol â thros 80 o sefydliadau ledled Cymru a’r DU i gael darlun mwy cynhwysfawr o’r sefyllfa yng Nghymru a’r DU. Mae Cymru bellach yn gadarn ar y map o ran delio â’r mater tra chymhleth a chudd hwn. Mae’n bwysig i ni beidio â cholli momentwm ac i ni adeiladu ar y cyflawniad hwn.

 

MYND I’R AFAEL Â THLODI

CYNLLUN GWEITHREDU TRECHU TLODI

Roedd y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Cabinet ar 7 Mawrth yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn dal yn benderfynol o leihau tlodi ac o liniaru cymaint â phosibl effeithiau Rhaglen Diwygio Lles Llywodraeth y DU. Bydd y Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi yn crynhoi’r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a’n partneriaid cymdeithasol i helpu cymunedau ac unigolion allan o dlodi. Yn benodol, bydd y Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi yn amlinellu cyfraniad pob rhan o Lywodraeth Cymru at drechu tlodi, ond yn cadw pwyslais cryf ar dlodi plant.  Bydd y Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi yn seiliedig ar y themâu canlynol: atal tlodi, helpu pobl i godi’u hunain allan o dlodi drwy ddileu rhwystrau i gyflogaeth, a gweithredu i wella ansawdd bywyd y rhai sy’n byw mewn tlodi. Yn hanfodol, bydd y Cynllun Gweithredu yn darparu diweddariadau rheolaidd ac yn cynnwys canlyniadau mesuradwy – i ddangos y cynnydd a wneir o ran gweithredu’r Strategaeth Tlodi Plant.

 

Bydd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, ynghyd â’n Strategaeth Cynhwysiant Ariannol “Mae Pawb yn Cyfrif”, yn canolbwyntio ar drechu tlodi mewn cymunedau. Mae’r ddwy fenter hyn yn rhannau allweddol o ymdrechion Llywodraeth Cymru i drechu tlodi.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi £4.056m dros y tair blynedd a ddaw i ben ym Medi 2013 i helpu Undebau Credyd Cymru i gynnig cynhyrchion ariannol i bobl a fyddai fel arall wedi’u hallgáu yn ariannol. Mae gweithio mewn partneriaeth ag Undebau Credyd i gynnig dewis fforddiadwy yn lle cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog neu fenthycwyr stepen y drws costus eraill yn dal yn amcan allweddol i Lywodraeth Cymru.  

 

Mae’r Rhaglen Lywodraethu hefyd yn cynnwys ymrwymiad i gynorthwyo darparwyr cyngor y Trydydd Sector er mwyn helpu pobl â phroblemau dyled a helpu pobl i reoli eu harian. Mae gwella mynediad at wasanaethau cynghori a ddarperir yn gyson ac yn gyffredinol ledled Cymru yn hanfodol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol a ninnau’n disgwyl y newidiadau i’r trefniadau lles a budd-daliadau sy’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU.

 

DYFODOL CYMUNEDAU YN GYNTAF

O 1 Ebrill 2012 bydd Cymunedau yn Gyntaf yn Rhaglen a fydd yn Canolbwyntio ar Drechu Tlodi mewn Cymunedau. Bydd yn rhaglen newydd ar lawer ystyr ond bydd yn adeiladu ar gyflawniadau Cymunedau yn Gyntaf ac yn parhau â llawer o’r gwaith da sydd ar y gweill mewn cymunedau lleol.

 

Bydd ffocws daearyddol y rhaglen yn parhau, a bydd yn canolbwyntio ar y 10% o gymunedau mwyaf amddifad Cymru, fel y’u diffiniwyd gan MALIC 2011, ond bydd pwyslais cynyddol ar sicrhau bod yr unigolion, y teuluoedd a’r grwpiau mwyaf agored i niwed yn y cymunedau hynny yn cael eu cynorthwyo. Bydd Cymunedau yn Gyntaf yn canolbwyntio ar drechu tlodi ac yn rhoi pwyslais penodol ar y tri chanlyniad strategol: cymunedau iachach; cymunedau dysgu; a chymunedau ffyniannus. Bydd cyllid grant ar gyfer y rhaglen yn cael ei ddyrannu i glystyrau Cymunedau yn Gyntaf a bydd Fframwaith Canlyniadau Cymunedau yn Gyntaf, sydd wedi’i seilio ar y model Atebolrwydd yn seiliedig ar Ganlyniadau, yn darparu strwythur i amlygu’r cyflawniadau yn erbyn y cyllid grant.

 

Bydd gwaith partneriaeth rhwng cymunedau a darparwyr gwasanaethau allweddol gan gynnwys y sector gwirfoddol a’r sector preifat yn cael ei gynorthwyo a’i hybu yn y rhaglen newydd.

 

GOBLYGIADAU DIWYGIADAU LLES LLYWODRAETH Y DU

Dull amgenach o ymdrin â Budd-dal y Dreth Gyngor

Yn rhan o’r diwygiadau lles ehangach, mae Llywodraeth y DU yn diddymu Budd-dal y Dreth Gyngor ac o Ebrill 2013 Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am ddarparu cymorth gyda’r dreth gyngor yng Nghymru. Yn ogystal â lleoleiddio’r cymorth bydd toriad o 10% yn y gwariant ar Fudd-dal y Dreth Gyngor. Bydd y cyllid hefyd yn symud i Derfynau Gwariant Adrannol, ac felly bydd yn rhaid i amrywiadau yn y galw gael eu rheoli o fewn cyllidebau sefydlog.

 

Rydym wedi dweud wrth Lywodraeth y DU ein bod yn poeni’n fawr am y cyfyngiadau amser a’r cyfyngiadau cyfreithiol ac ariannol sy’n gysylltiedig â gorfodi’r newidiadau hyn. Er gwaethaf yr amheuon, mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir ei bod yn mynd i barhau â’i chynlluniau i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor ac i drosglwyddo’r cyfrifoldeb am ddarparu cymorth gyda’r dreth gyngor yng Nghymru i Lywodraeth Cymru.

 

O ganlyniad mae paratoadau manwl ar y gweill i ddatblygu system i ddarparu cymorth gyda’r dreth gyngor a fydd yn gweddu orau i anghenion pobl Cymru, ac i sicrhau na fydd rhai o’n pobl fwyaf agored i niwed yn dioddef caledi ariannol difrifol. I helpu i ddatblygu cynllun newydd, cyhoeddwyd dogfen ymgynghori ar 6 Chwefror.

Y Gronfa Gymdeithasol

Diddymwyd y Gronfa Gymdeithasol ddewisol hefyd gan y Ddeddf Diwygio Lles, a bydd rhannau ohoni (benthyciadau argyfwng ar gyfer treuliau byw a grantiau gofal cymunedol) yn cael eu disodli gan ddarpariaethau lleol newydd. O Ebrill 2013 bydd cyllid ar gyfer y Gronfa Gymdeithasol yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, i Lywodraeth yr Alban ac i awdurdodau lleol yn Lloegr.

 

Mae Llywodraeth y DU yn cynnig datganoli cyllid ar lefel y gwariant a gofnodir ar gyfer 2012-13. Mae wedi dweud yn glir ei bod yn bwriadu gostwng y gwariant i lefelau 2005 erbyn y dyddiad hwnnw ac mae wedi cyflwyno mesurau i leihau’r galw a’r gwariant. Amcangyfrifir, ar sail gwariant  2005, y byddai £9.28 miliwn yn cael ei ddatganoli, gostyngiad o ryw 24% ar lefelau 2010.

 

Am na ellir parhau i weinyddu’r cynllun drwy’r 64 o swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith, mae angen dod o hyd i ffordd arall o’i ddarparu. Gallai’r opsiynau gynnwys ei ddarparu drwy awdurdodau lleol, drwy fudiadau’r trydydd sector neu drwy ryw gyfuniad o’r rhain. Gallai gynnwys rhoi buddion mewn nwyddau, ee dodrefn ail-law wedi’u hailwampio, swmpbrynu nwyddau gwyn neu ddefnyddio banciau bwyd.

 

Mae’r galw am unrhyw gynllun olynol yn debyg o gynyddu o ganlyniad i gyflwyno Credyd Cynhwysol a’r gostyngiadau mewn budd-daliadau eraill, gan gynnwys y budd-dal tai a budd-dal y Dreth Gyngor. Gallai hynny roi gwir bwysau ar y gyllideb a ddatganolir gan Lywodraeth y DU.

Adolygiad o Wasanaethau Cynghori

Rwyf wedi gofyn i swyddogion gychwyn adolygiad llawn o wasanaethau cynghori yng ngoleuni’r heriau eithriadol sy’n wynebu darparwyr di-elw o ganlyniad i gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer Diwygio Lles a Chymorth Cyfreithiol, ac effaith y gostyngiadau yn y cyllid ar gyfer cyngor drwy’r Gronfa Cynhwysiant Ariannol a’r Llinell Gymorth Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. 

 

Bydd yr adolygiad yn ymchwilio i ffyrdd o ddatblygu rhwydwaith cryfach o wasanaethau cynghori sy’n gallu rhoi cymorth gyda phob math o anghenion yn ymwneud ag arian a thai. 

 

Mae cwmpas yr adolygiad yn cael ei ddatblygu, ond rhagwelwn y bydd yn edrych ar yr holl wasanaethau cynghori ar draws portffolios Llywodraeth Cymru.

 

Nid yw cwmpas yr adolygiad wedi’i bennu’n derfynol eto ond, yn fras, bydd yn:

 

  • ymchwilio i ffyrdd o ddatblygu rhwydwaith cryfach o wasanaethau cynghori generig:

 

§  sy’n gwella ansawdd y gwasanaeth i’r defnyddiwr;

§  sy’n gallu rhoi cymorth gyda phob math o anghenion yn ymwneud ag arian, tai a materion cysylltiedig eraill; ac

§  sy’n gallu helpu pobl â nodweddion gwarchodedig i ddeall ac arfer eu hawliau ac i wneud dewisiadau cytbwys. 

 

·         nodi effaith y toriadau yng nghyllid Llywodraeth y DU a llywodraeth leol

·         asesu’r galw am wasanaethau cynghori dros y 5 mlynedd nesaf

·         nodi’r ffordd fwyaf effeithiol o ddefnyddio cronfeydd i gefnogi rhwydwaith cynghori yng Nghymru.